Signed in as:
filler@godaddy.com
Signed in as:
filler@godaddy.com
Wyt ti am weld ton Gymraeg newydd yn sgubo trwy Gymru?
Mae'r llywodraeth yn trio'i gwneud hi'n bosib i'r gymuned Gymraeg dyfu i filiwn o aelodau. Ond ni'r gymuned fydd yn gorfod croesawu ac annog, a rhoi help i'r aelodau newydd ymgartrefu.
Mae "miliwn o siaradwyr" o fewn ein gafael.
Os wyt ti am helpu i gyrraedd y miliwn, gwasga'r botwm i roi dy gyfeiriad ebost i ni , a byddwn yn cysylltu gyda rhagor o fanylion
Diben CydSiarad yw creu croeso i siaradwyr newydd.
Mae dysgu iaith newydd yn anodd. Mae defnyddio'r iaith newydd yn anoddach fyth, yn enwedig gyda phobl sydd hefyd yn gyfforddus yn siarad eich prif iaith.
Bydd CydSiarad yn ofod lle:
Bydd CydSiarad yn tywys siaradwyr newydd at galon y gymdeithas Gymraeg.
A wyt ti yn gallu ein helpu i:
Os felly, gwasga'r botwm i roi dy gyfeiriad ebost i ni, a byddwn yn cysylltu gyda rhagor o fanylion
Y gymuned yw conglfaen ein gweledigaeth. Rydyn ni wedi ymgorffori ar sail cyd-weithredol er mwyn i'r gymuned hefyd fod yn ganolog i'r cwmni.
Rydyn ni wrthi'n datblygu y fodel ar gyfer hyn, a bydd rhagor o newyddion yn fuan.
Os hoffet ti fod yn rhan o bethau, gwasga'r botwm i roi dy gyfeiriad ebost i ni yma, a byddwn yn cysylltu gyda rhagor o fanylion
Mae creu yn hanfodol i unrhyw gymdeithas. Wyt ti'n greadigol?
Hoffet ti greu pethau i'w rhannu gyda'r gymuned?
Os hoffet ti fod yn creu pethau, gwasga'r botwm i roi dy gyfeiriad ebost i ni , a byddwn yn cysylltu gyda rhagor o fanylion
Mae hanner miliwn o siaradwyr Cymraeg. Er mwyn cyrraedd Miliwn, dyna i gyd sydd angen yw i bob un ohonon ni helpu un person i ddod yn rhan o'n cymuned ni.
Pwy fydd dy un person di?
Dere â nhw i GydSiarad!